Home Page

Update from Twinkl


Helo bawb, su’ mae?

Rydyn ni wedi goroesi yr wythnos gyntaf “yn ôl yn yr ysgol” - boed athro, rhiant, pennaeth, cynorthwyydd, neu’n gyfuniad o rain!

Yma, at Twinkl, rydyn ni wedi cyhoeddi ein pecynnau dysgu cartref ar gyfer wythnos 6 ac am y tro, hon fydd yr olaf o’r pecynnau parod yma. Ar hyn o bryd, mae ein tîm o athrawon a dylunwyr graffeg yn gweithio’n galed iawn i greu adnoddau newydd sbon ar gyfer cynorthwyo ein plant i ddysgu o’r cartref neu mewn hwb. Adnoddau sy’n llawn syniadau ymarferol ar gyfer gweithgareddau i daro amcanion Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob oedran cynradd. Cadwch lygad allan, mi fyddan nhw allan yr wythnos hon.

Lle da i ddod o hyd i adnoddau newydd ydy ar ein cyfryngau cymdeithasol. Ar Facebook gallwch ymuno a’n Grŵp Twinkl Cymraeg (yn bennaf i athrawon) neu Grŵp Twinkl Cymraeg i Rieni lle mae’n bosib rhannu syniadau, gofyn am gymorth neu sgwrsio gyda rhai sydd yn yr un cwch. Neu gallwch ein dilyn ar Instagram, Twitter neu Pinterest.

Mae ein Straeon Gwreiddiol Twinkl dal yn cael eu recordio gan athrawon dros Gymru. Maent yn cael eu rhannu ar Facebook yn rheolaidd ac yn cael eu cadw fan hyn ar YouTube. Cofiwch ddefnyddio’r bar chwilio ar Twinkl i ddod o hyd i’r stori ei hun a’r gweithgareddau sy’n cyd-fynd a’r stori.

Yr wythnos hon, cyhoeddwyd dwy stori newydd sbon yn y Gymraeg. Cuddio-sorws, am ddeinosoriaid sy’n chwarae cuddio ac yn cynnwys rhifo at 10 - perffaith i blant meithrin a derbyn. Yna, Ramadan Rammena, stori sy’n sôn am sut mae Rameena a’i theulu yn dathlu gŵyl Ramadan ac Eid. Dechreuodd Ramadan ar Ebrill 23ain ac mae’n para tan Mai 23ain. Mae gwybodaeth ddiddorol am Ramadan ar gael ar gyfer blynyddoedd 3-6 yn ogystal â gweithgareddau am grefyddau a diwylliannau eraill.

Cofiwch sgrolio lawr i weld ein hadnoddau diweddaraf a chysylltwch os fedrwn ni eich helpu mewn unrhyw ffordd.

Pobl lwc efo’ch wythnos, Eleri

--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Hi everyone, how are you?

We have survived our first week “back at school” - whether you are a teacher, parent, headteacher, support staff, or a mixture of these!

We have published our week 6 home learning packs and for the time being, this is our last pre-made weekly pack. At the moment, our amazing team of teachers and graphic designers are busy working on brand new resources to assist children who are learning from home or in a hub. Resources that are full of ideas for practical activities that hit those Curriculum for Wales objectives for all primary ages. Keep your eyes peeled, they will be out this week.

A great place to find the newest resources we have is on social media. On Facebook, you can join our Twinkl Wales Teaching Group (predominantly for teachers) or our Twinkl Wales Parents Group where we share ideas, ask for support or have a general chit-chat with those who are in the same boat. You can also find us on Instagram, Twitter or Pinterest.

Our Twinkl Originals Stories are still being recorded in both Welsh and English. They are shared on Facebook frequently and are kept here on YouTube. Remember to use the search bar on the Twinkl website to find the copy of the story and also all the lovely activities that go with the books.

We have a brand new book out called The Bear who Came to Babysit for younger children and The Pack of Pompeii for those in KS2. We also have 2 new Welsh books out this week, Cuddio-sorws, and Ramadan Rammena. Both are also available in English: Hide-o-Saurus and Rameena’s Ramadan. This is a lovely story all about Rameena and her family’s Ramadan and Eid celebrations. Ramadan started on April 23rd and will last until May 23rd. We have lots of resources about Ramadan for Years 3-6 as well as other activities full of information about other religions and cultures.

Don’t forget to scroll down to see our latest resources and please do get in touch if we can help in any way,

Have a great week,

Eleri