Home Page

Letter from the Corporate Director of Education & Family Support

Dyddiad/Date: 4 June 2020

 
Dear Parent/Carer

I would like to begin my note by thanking you for your support and patience over the past ten weeks. I am also grateful to you all for the work you have done to support your child’s learning at home since schools closed in March.

Following the Minister for Education’s announcement yesterday, and although local authorities in Wales are awaiting further detail, I am sure that you are keen to know what the next few weeks will look like as far as schools in Bridgend are concerned.

We now know that some learners will be back in schools from 29 June and the school term will be extended by one week until 27 July. The Minister also announced that the autumn half-term break (October holidays) will be extended to two weeks.  Whether this extra week will be the week commencing 19 October or 2 November is yet to be determined.

When schools reopen, they will not operate in the same way as they have done in the past. There will be far fewer learners in each classroom and, much in the same way as your child has accessed work over the past few months, schools will continue to provide personalised online learning opportunities for all learners.

Over the next two weeks, your child’s school will contact you to let you know how learners will return to school. It is important to note that learners will return to school on a ‘phased return’. This means that not all learners will return at once and, when they do return, the school day might start and end at different times for different learners. This may include different arrangements for siblings of different ages, attending the same school.

I appreciate that the thought of returning to school and the preparation required might be challenging for learners and parents alike. I anticipate that many parents and learners will be anxious. Please be assured that this is an entirely natural reaction to the current situation. With this in mind, I am keen to do everything possible to assure you of the local authority’s support in ensuring the emotional and physical wellbeing of learners is prioritised.  Therefore, please be reassured that the local authority is working closely with schools and its partners to ensure that support is in place to assist your child’s return to school.

Thank you, once again, for your patience and support at this challenging time.

Best wishes

 


Lindsay Iorwerth Harvey (Mr)

Corporate Director – Education and Family Support/Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Bridgend County Borough Council        

 

 

Dyddiad/Date: 4 June 2020

 
Annwyl Rieni/Gofalwyr

Hoffwn ddechrau fy neges drwy ddiolch ichi am eich cefnogaeth a’ch amynedd dros y deg wythnos diwethaf. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i chi am yr holl waith rydych chi wedi’i wneud i helpu’ch plentyn ddysgu gartref ers i’r ysgolion gau ym mis Mawrth. 

Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Addysg ddoe, ac er bod awdurdodau lleol Cymru yn aros am ragor o fanylion, rwy’n siŵr eich bod yn awyddus i wybod beth fydd yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf mewn perthynas ag ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwyddom yn awr y bydd nifer o ddisgyblion yn dychwelyd i’r ysgolion o 29 Mehefin ymlaen ac y bydd tymor yr haf yn para wythnos ychwanegol, tan 27 Gorffennaf. Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd y bydd pythefnos o wyliau yn ystod hanner tymor yr hydref (gwyliau mis Hydref). Nid ydym yn gwybod eto ai’r wythnos yn dechrau ar 19 Hydref ynteu’r wythnos yn dechrau ar 2 Tachwedd fydd yr wythnos ychwanegol.

Pan fydd ysgolion yn ailagor, ni fyddant yn gweithredu fel o’r blaen. Bydd llai o ddisgyblion ym mhob ystafell ddosbarth ac, fel sydd wedi bod yn digwydd dros y misoedd diwethaf, bydd yr ysgolion yn parhau i baratoi cyfleoedd dysgu personol ar-lein i’r holl ddisgyblion.

Dros y bythefnos nesaf, bydd ysgol eich plentyn yn cysylltu â chi i ddweud sut y bydd dysgwyr yn dychwelyd i’r ysgol. Mae’n bwysig nodi y bydd dysgwyr yn dychwelyd i’r ysgol yn raddol. Hynny yw, ni fydd yr holl ddysgwyr yn dychwelyd yr un pryd a, phan fyddant yn dychwelyd, gall y diwrnod ysgol ddechrau a gorffen ar amseroedd gwahanol i ddysgwyr gwahanol. Gall hyn gynnwys trefniadau gwahanol i frodyr a chwiorydd o wahanol oed sy’n mynd i’r un ysgol. 

Rwy’n sylweddoli y gall y syniad o ddychwelyd i’r ysgol a pharatoi i wneud hynny fod yn anodd i rai dysgwyr a rhieni. Rwy’n rhagweld y bydd nifer o rieni a dysgwyr yn bryderus. Hoffwn eich sicrhau bod hyn yn ymateb gwbl naturiol i’r sefyllfa bresennol. O gofio hyn, rwy’n awyddus i wneud popeth i’ch sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn eich helpu i sicrhau mai lles emosiynol a chorfforol y dysgwyr fydd yn cael blaenoriaeth. Gan hynny, cofiwch fod yr awdurdod lleol yn gweithio’n agos gydag ysgolion a’i bartneriaid i wneud yn siŵr bod mesurau ar waith i helpu’ch plentyn ddychwelyd i’r ysgol.

Diolch, unwaith eto, am eich amynedd a’ch cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Cofion gorau

 

 

Lindsay Iorwerth Harvey (Mr)

Corporate Director – Education and Family Support/Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Bridgend County Borough Council