Home Page

Arrangements for the start of the Spring Term - January 2021 - Letter from Lindsay Harvey to parents

Deuluoedd  (UCCACD)

Education and Family Support Directorate –

Directorate Support Unit (EDSU)

 

Deialu uniongyrchol / Direct line: 01656 642617

 

Ein cyf / Our ref: EDSU/ LH

 

 

Eich cyf / Your ref: Jan 2021

 

 

Dyddiad / Date:  17 December 2020

 

 

 

Dear Parent/Carer

 

As we approach the end of a difficult year, I know many of you will be keen to know what arrangements Bridgend schools will be putting in place for January 2021. I trust this letter will provide helpful information in respect of start-of-term arrangements in your child’s school.

 

All Bridgend schools will be using Monday 4 January and Tuesday 5 January to assess levels of available staff, review risk assessments and ensure the school is a safe environment for learners. This means that, on these two days, no learners will be in school. It also means that direct online learning opportunities will not be provided by individual schools for their pupils on 4 and 5 January.

 

On 6, 7 and 8 January, all Bridgend infant, junior, primary and special schools, with primary school age children, will be providing on-site support for the children of critical workers only.

 

In Bridgend, a critical worker is defined as someone who works for one of the following organisations:

 

  • Health
  • Social care
  • Fire and rescue service
  • Police
  • Ambulance service
  • Education

Much in the same way as we have done this week (ie using the same eligibility criteria), critical workers are advised that, if your child is of a primary school age, on Monday 4 January, your child’s school will ask you to let them know if your child will be attending school on 6, 7 and 8 January.

 

This is necessary to allow the local authority to plan appropriate school meal and learner transport provision.

 

There is no on-site/in-school provision for the children of critical workers in any Bridgend secondary school on 6, 7 or 8 January.

 

Pupils who will be learning from home on 6, 7 and 8 January will receive online learning activities from their schools. Bridgend schools will not be providing ‘live’ lessons during this period.

 

From Monday 11 January, learners will start to return to school. Your child’s school will let you know how this will happen in January. It is my expectation that as many learners as possible are educated on-site, as quickly and as safely as possible during this week.

 

Thank you, once again, for your ongoing support and patience.

 

Take care – and have a safe Christmas

 

Yours sincerely

 

 

 

Lindsay Iorwerth Harvey (Mr)

 

Corporate Director – Education and Family Support

Bridgend County Borough Council         

 

 

 

 

Uned Cymorth Cyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd  (UCCACD)

Education and Family Support Directorate –

Directorate Support Unit (EDSU)

 

Deialu uniongyrchol / Direct line: 01656 642617

 

Ein cyf / Our ref: EDSU / LH

 

 

Eich cyf / Your ref: January 2021

 

 

Dyddiad / Date: 17 Rhagfyr 2020

 

 

 

Annwyl Riant/Gofalwr

 

Wrth inni nesáu at ddiwedd blwyddyn anodd, gwn y bydd llawer ohonoch yn awyddus i wybod pa drefniadau y bydd ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn eu rhoi ar waith ar gyfer mis Ionawr 2021.

 

Gobeithio y bydd y llythyr hwn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y trefniadau ar gyfer dechrau'r tymor yn ysgol eich plentyn.

 

Bydd holl ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio dydd Llun 4 Ionawr a dydd Mawrth 5 Ionawr i asesu faint o staff sydd ar gael, adolygu asesiadau risg a sicrhau bod yr ysgol yn amgylchedd diogel i ddysgwyr.

 

Mae hyn yn golygu, ar y ddau ddiwrnod hyn, na fydd unrhyw ddysgwyr yn yr ysgol. Mae hefyd yn golygu na fydd cyfleoedd dysgu uniongyrchol ar-lein yn cael eu darparu gan ysgolion unigol ar gyfer eu disgyblion ar 4 a 5 Ionawr.

 

Ar 6, 7 ac 8 Ionawr, bydd yr holl ysgolion babanod, iau, cynradd ac arbennig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd â phlant oedran ysgol gynradd yn darparu cymorth ar y safle ar gyfer plant gweithwyr hanfodol yn unig.

 

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, diffinnir gweithiwr hanfodol fel rhywun sy'n gweithio i un o'r sefydliadau canlynol:

 

  • Iechyd
  • Gofal cymdeithasol
  • Gwasanaeth tân ac achub
  • Heddlu
  • Gwasanaeth ambiwlans
  • Addysg

Yn yr un modd ag y maen nhw wedi'i wneud yr wythnos hon (h.y. gan ddefnyddio'r un meini prawf cymhwysedd), cynghorir gweithwyr hanfodol, os yw eich plentyn o oedran ysgol gynradd, ddydd Llun 4 Ionawr, bydd ysgol eich plentyn yn gofyn i chi roi gwybod iddyn nhw pa blant fydd yn mynychu'r ysgol ar 6, 7 ac 8 Ionawr.

 

Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i'r awdurdod lleol gynllunio darpariaeth briodol ar gyfer prydau ysgol a chludiant i ddysgwyr.

 

Ni fydd unrhyw ddarpariaeth ar y safle/yn yr ysgol ar gyfer plant gweithwyr hanfodol mewn unrhyw ysgolion uwchradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 6, 7 ac 8 Ionawr.

 

Bydd disgyblion a fydd yn dysgu o gartref ar 6, 7 ac 8 Ionawr yn derbyn gweithgareddau dysgu ar-lein gan eu hysgolion. Ni fydd ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwersi 'byw' yn ystod y cyfnod hwn.

 

O ddydd Llun 11 Ionawr ymlaen, bydd y dysgwyr yn dechrau dychwelyd i'r ysgol. Bydd ysgol eich plentyn yn rhoi gwybod i chi sut y bydd hyn yn digwydd ym mis Ionawr. Rwy'n disgwyl i gynifer o ddysgwyr â phosibl gael eu haddysgu ar y safle, mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl yn ystod yr wythnos hon.

 

Diolch, unwaith eto, am eich cymorth a'ch amynedd parhaus.

 

Cymerwch ofal – a mwynhewch Nadolig diogel.

 

Yn gywir

 

 

 

Lindsay Iorwerth Harvey (Mr)

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr